Trefnu Priodas

 

I briodi.

 

Eich diwrnod priodas dyle fod y diwrnod mwyaf arbennig yn eich bywydau. Os ydych yn bwriadu priodi yn unrhyw un o ein Eglwysi Plwyf dylech ystyried y canlynol:

- Yn ôl deddf dyle un neu’r ddau ohonoch chi byw ym mhlwyf Gelligaer neu fod a chysylltiad cymwys (cysylltwch a Fr G. Powell ynglyn a hyn).
- Os ydy un ohonoch chi wedi ysgaru nid yw’n wastad posib i briodi mewn Eglwys. Fe fydd rhaid i chi siarad â Offeiriad y Plwyf ynglyn a hyn.
- Gallwch hefyd priodi os ydych yn aelod o’r Eglwys ac ar y rhôl etholiadol.

 

Beth fydd cost y priodas?

 

Sant Catwg a Santes Marged

Mae'r cost llawn am eich priodas yw:
 
Cyfanswm i’w dalu
"Mae'r costau yn cael eu adolygu gan Gyngor yr Eglwys Blwyf yn gynnar ym mhob Blwyddyn Newydd ac yn cael eu cywiro fel arfer i adlewyrchu chwydd."

 

Os oes angen dystysgrif gostegion ar gyfer briodas mewn eglwys arall, fe fydd ffi o £30.00 am y tystysgrif.

Bydd rhaid talu flaendal o £100, unwaith mae dyddiad pendant yn cael ei gosod. Ni fydd yr arian yma yn cael eu ad-dalu. Yn anffodus, mae diddymiadau a newidiadau i’r amseroedd wedi creu problemau mawr yn y gorffennol. Mae’r £100, yn amlwg, yn rhan o’r cyfanswm dangoswyd uwchben os ydy’r seremoni priodas yn mynd ymlaen fel y cynlluniwyd.

Ffurfioldebau cyfreithlon ~ Gostegion y Briodas

Mae darlleniad y gostegion o briodas yn gofyniad cyfreithlon mae rhaid i’r Eglwysi cyflawni. Bydd rhaid i ostegion eich priodas cael eu darllen mas ym mhob un o’r plwyfi ble rydych yn byw.

Mae rhaid i’r gostegion cael eu darllen mas ar dri Sul yn y tri mis cyn eich priodas. Bydd y Rheithor yn cyhoeddi eich cynlluniau i briodi yn ystod y gwasanaeth. Os ydy’r ddau ohonoch chi yn byw ym mhlwyfi gwahanol fydd rhaid i chi trefnu i’ch gostegion cael eu darllen yn y ddau Plwyf priodol. Eich cyfrifoldeb chi yw hi i ymweld a’r Offeiriad Plwyf arall er mwyn gofyn iddyn nhw i wneud hyn. Os nad ydych yn preswylydd ond rydych ar y rhôl etholiadol mae rhaid i’ch gostegion cael eu darllen yn y Plwyf hynny ac y Plwyf lle rydych yn preswylydd.
Unwaith i’r gostegion cael eu darllen bydd yr Offeiriad yn rhoi tystysgrif i chi yn ddangos nid oes unrhyw wrthwynebiadau i’r priodas. Wedyn mae rhaid i chi rhoi y tystysgrif yma i’r Offeiriad a fydd yn cynnal y seremoni priodasol. Heb y tystysgrif ni allwch chi priodi. Fe fydd tâl am y tystysgrif.

Y Gwasanaeth Priodasol

wed

Fel rhan o’r gwasanaeth priodasol fyddwch yn addo i garu a chefnogi eich gilydd nes i chi farw. Y mae’r seremoni priodasol y fyddwch yn cymryd rhan ynddo yn gwasanaeth traddodiadol a ni all hyn cael ei newid neu gywiro i siwtio’r unigolyn. Y mae’r addunedau yr ydych yn dweud wedi’u selio a nid ydy hi’n bosib i newid yr addunedau neu i ychwanegu atyn nhw.

Mae pwyslais heddi ar rannu cyfrifoldebau, eiddo a chariad fel perthynas. Nid yw’r priodferch yn addo i ufuddhau rhagor.

Mae’r gwasanaeth traddodiadol yn cynnwys gorymdaith y briodferch, dau emyn yn ystod y gwasanaeth a gorymdaith ymadawol. Er hynny, nid yw’n amod i ddau emyn cael eu canu ond rhaid cofio ni all rhain cael eu ailosod gan ganeuon an-crefyddol, an-Cristion.

Allwch chi parchu os gwelwch yn dda y ffaith mae’r Rheithor sydd yn cael y gair olaf ar y cerddoriaeth yr ydych wedi dewis am y seremoni.

 

0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0 0

 

[Safeguarding Policy][Disclaimer] [Home Page]